WYTHNOS YMA:
Dydd Iau 26ain: Cyfle i Blant Rwymo Llyfrau 11am - 3pm
Dydd Sadwrn: Peintion eich Crochenwaith eich Hun 11am - 3pm
Dydd Llun Gwyl y Banc: Crefft Creu Cesig Medi 10am - 4pm
Dydd Mawrth 31 ain: Addurniau/ Gemwaith Gwallt a Phenwisgoedd
Mae Canolfan Grefftau Sir Gâr wedi’i lleoli yng nghanol Sanclêr yn ardal wledig brydferth Sir Gaerfyrddin. Melin oedd yr adeilad yn wreiddiol, ac yna fe’i defnyddiwyd fel safle’r Gydweithfa Ffermwyr, a bellach mae’r adeilad carreg hyfryd hwn ar ei newydd wedd yn cadw llawer o’i gymeriad gwreiddiol ac yn parhau i fod yn ganolbwynt yn y dref.
Mae’r adeilad yn cynnwys
ac yn cynnig amrywiaeth eang o gyfleusterau, digwyddiadau a gweithgareddau, gan gynnwys dosbarthiadau ac arddangosiadau, arddangosfeydd a stiwdio peintio eich crochenwaith eich hun.
Y weledigaeth ar gyfer yr adeilad yw iddo fod yn adnodd i bobl leol ac ymwelwyr â’r ardal, gan ddarparu cyfleoedd artistig a diwylliannol, cymorth busnes a man cyfarfod i’r gymuned.
Mae adeilad Canolfan Grefftau Sir Gâr yn dirnod hanesyddol mewn tirwedd hynafol – mae gan dref Sanclêr dreftadaeth gyfoethog sy’n ymestyn yn ôl i’r canoloesoedd ac ymhellach. Erbyn hyn, yn yr 21ain ganrif, gobeithiwn y bydd yr adeilad sydd newydd gael ei adnewyddu yn dod yn fan prysur a chyffrous, gan gynnig cyfleoedd, digwyddiadau a phrofiadau newydd i bawb sy’n ymweld.


